Quantcast
Viewing all articles
Browse latest Browse all 7

Kim Atkinson

Image may be NSFW.
Clik here to view.

 

Ganwyd 1962. MA Darluniadau Astudiaeth Natur R.C.A. 1987.

Mae Kim yn byw ym mhen pellaf gorllewinol Penrhyn Llŷn sy'n ffynhonell rhan helaeth o'i gwaith.

Ers ei magwraeth yn Ynys Enlli ac yna yng Ngernyw, ynghŷd â chefnogaeth ei theulu a'u diddordeb dwfn ym myd natur sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth cyson, cafod Kim ei chyfareddu gan adar yn arbennig.

Mae eu lleoliad yn yr amgylchedd a'u rhyngweithriadau, ac yn ddiweddarach y synau maent yn eu creu yn y swnluniad ehangach, yn ffurfio sylfaen ymholiad parhaol. Man cychwyn ei holl gwaith yw manylder a chywreindeb yr amgylchedd naturiol, ei siâp a'i sŵn a'i gwead, a nodiadau a wneir yn y maes, yn aml gan ddefnyddio ysbienddrych.

Mae'r gwaith yn y stiwdio yn aml yn cynnwys mwy nag un cyfrwng. Monoprint yw'r dull ble mae inciau olew seiledig yn cael eu trosglwyddo o gardyn neu Perspex, sydd yn arwain at naenliwio, llinellau crafedig, ansoddau od.

Yn rhai o'r darnau diweddarach, gwelir bod yna broses o wrando yn hytrach na edrych sy'n tanseilio'r ymchwiliad parhaol, y "lluniadau sŵn" gydag allwedd i ddehongli marciau haniaethol a wnaed yn y man a'r lle dros gyfnodau o hanner awr, neu awr, ar y tro. Gwnaed y rhai o ddangosir yn yr ardd ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Mae Kim yn cadw "llyfr nodiadau synau" ble mae marciau ac ysgrifen yn cofnodi newidiadau tymhorol a'r synau a wneir gan adar, y tywydd, tractoriaid, gwartheg, gwahanol bryfaid, fel sioncynod gwair. Mae rhai o'r marciau hyn wedi ffeindio eu ffordd i mewn i'r darluniau.

{igallery id="7664" cid="80" pid="1" type="classic" children="1" showmenu="1" tags="" limit="0"}


Viewing all articles
Browse latest Browse all 7